18 rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti;wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb.
19 Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;paid bod yn genfigennus ohonyn nhw –
20 does dim dyfodol iddyn nhw.Mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.
21 Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin,a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela.
22 Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw;pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?
23 Dyma fwy o eiriau'r doethion:Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da.
24 Bydd barnwr sy'n gollwng yr euog yn rhyddyn cael ei felltithio gan bobl,a'i gondemnio gan wledydd;