21 Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin,a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela.
22 Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw;pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?
23 Dyma fwy o eiriau'r doethion:Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da.
24 Bydd barnwr sy'n gollwng yr euog yn rhyddyn cael ei felltithio gan bobl,a'i gondemnio gan wledydd;
25 Ond bydd bywyd yn braf i'r un sy'n barnu'n deg;bydd e'n cael ei fendithio'n fawr.
26 Mae rhoi ateb gonestfel cusan ar y gwefusau.
27 Rho drefn ar dy waith tu allan,a chael y caeau'n barod i'w plannu,ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ.