26 Mae rhoi ateb gonestfel cusan ar y gwefusau.
27 Rho drefn ar dy waith tu allan,a chael y caeau'n barod i'w plannu,ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ.
28 Paid rhoi tystiolaeth yn erbyn rhywun heb achos da;a paid camarwain pobl.
29 Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl!Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.”
30 Roeddwn i'n pasio heibio cae y dyn diog,a gwinllan un sydd heb sens;
31 Roedd drain wedi tyfu drosto,a chwyn ym mhobman,a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio.
32 Wrth edrych a meddwl am y peth,roedd beth welais i yn dysgu gwers i mi: