29 Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl!Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.”
30 Roeddwn i'n pasio heibio cae y dyn diog,a gwinllan un sydd heb sens;
31 Roedd drain wedi tyfu drosto,a chwyn ym mhobman,a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio.
32 Wrth edrych a meddwl am y peth,roedd beth welais i yn dysgu gwers i mi:
33 “Ychydig bach mwy o gwsg;pum munud arall!Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”
34 Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog.