3 Mae'n cymryd gallu i adeiladu tŷ,a deall i osod seiliau cadarn iddo.
4 Mae angen gwybodaeth i lenwi'r ystafelloeddgyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd.
5 Mae person doeth yn gryf,a person deallus yn ddylanwadol.
6 Mae angen strategaeth i ymladd brwydr,a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth.
7 Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;does ganddo ddim i'w ddweud pan mae'r arweinwyr yn cyfarfod.
8 Mae'r sawl sy'n cynllunio i wneud drwgyn cael yr enw o fod yn gyfrwys.
9 Mae castiau'r ffŵl yn bechod,ac mae'n gas gan bobl berson sy'n gwawdio.