6 Mae angen strategaeth i ymladd brwydr,a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth.
7 Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;does ganddo ddim i'w ddweud pan mae'r arweinwyr yn cyfarfod.
8 Mae'r sawl sy'n cynllunio i wneud drwgyn cael yr enw o fod yn gyfrwys.
9 Mae castiau'r ffŵl yn bechod,ac mae'n gas gan bobl berson sy'n gwawdio.
10 Os wyt ti'n un i golli hyder dan bwysau,mae gen ti angen mwy o nerth.
11 Achub y rhai sy'n cael eu llusgo i ffwrdd i'w lladd!Bydd barod i helpu'r rhai sy'n baglu i'r bedd.
12 Os byddi di'n dweud, “Ond doedden ni'n gwybod dim am y peth,”cofia fod yr Un sy'n pwyso'r galon yn gweld y gwir!Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e'n gwybod;a bydd pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu.