13 Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!Mae e'n rhydd yn y stryd!”
14 Mae diogyn yn troi ar ei welyfel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau!
15 Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.
16 Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallachna saith o bobl sy'n rhoi cyngor da.
17 Mae busnesa yn ffrae rhywun arallfel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau.
18-19 Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,”fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad.
20 Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi,ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs.