20 Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi,ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs.
21 Ond mae rhywun sy'n dechrau ffraefel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân.
22 Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –mae'r cwbl yn cael ei lyncu.
23 Mae tafod sy'n rhy barod a bwriad sy'n ddrwgfel farnis clir ar botyn pridd.
24 Mae gelyn yn smalio,ond ei fwriad ydy twyllo;
25 paid â'i gredu pan mae'n dweud pethau caredig,achos mae pob math o bethau ffiaidd ar ei feddwl.
26 Mae'n cuddio ei gasineb trwy dwyll,ond bydd ei ddrygioni yn dod yn amlwg i bawb.