3 Chwip i geffyl a ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid.
4 Paid ateb ffŵl fel mae e'n siarad,neu byddi di'n debyg iddo;
5 ateb ffŵl fel mae e'n siarad,a bydd e'n meddwl ei fod e'n glyfar.
6 Mae anfon neges drwy law ffŵlfel rhywun yn mwynhau gwneud niwed iddo'i hun.
7 Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵlfel coesau rhywun cloff yn hongian yn llipa.
8 Mae rhoi anrhydedd i ffŵlmor wyrion â rhwymo carreg mewn ffon dafl.
9 Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl,fel llwyn o fieri yn llaw meddwyn.