9 Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl,fel llwyn o fieri yn llaw meddwyn.
10 Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwynfel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio.
11 Mae ffŵl sy'n ailadrodd beth wnaeth e,fel ci yn mynd yn ôl at ei chwŷd.
12 Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth.
13 Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!Mae e'n rhydd yn y stryd!”
14 Mae diogyn yn troi ar ei welyfel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau!
15 Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.