1 Paid brolio am beth wnei di yfory,ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod.
2 Gad i rywun arall dy ganmol di,paid ti â brolio dy hun.
3 Mae carreg yn drom, ac mae pwysau i dywod,ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau.
4 Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu,ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau.
5 Mae cerydd gonestyn well na peidio dangos cariad.
6 Mae'n well cael eich brifo gan ffrind,na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu.