10 Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu,a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion.Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell.
11 Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus,er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort ar fy mhen.
12 Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi;ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
13 Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall;cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol.
14 Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y boreyn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.
15 Mae gwraig gecrus yr un fath âdiwrnod pan mae hi'n glawio'n ddi-stop;
16 mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu,neu ddal olew yn y llaw.