20 Dydy Annwn ac Abadon byth yn cael digon,a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith.
21 Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person.
22 Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda pestl mewn mortarond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael.
23 Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn,a gofala am y geifr;
24 achos dydy cyfoeth ddim yn para am byth,a dydy coron ddim yn aros bob amser.
25 Ar ôl cario'r gwair mae'r glaswellt yn tyfu eto,ac ar ôl i gnwd y bryniau gael ei gasglu,
26 bydd yr ŵyn yn rhoi dillad i tia'r bychod geifr yn talu am y tir.