3 Mae carreg yn drom, ac mae pwysau i dywod,ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau.
4 Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu,ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau.
5 Mae cerydd gonestyn well na peidio dangos cariad.
6 Mae'n well cael eich brifo gan ffrind,na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu.
7 Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl,ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys.
8 Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartrefel aderyn wedi gadael ei nyth.
9 Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus,mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.