1 Mae pobl ddrwg yn ffoi pan does neb ar eu holau,ond mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn hyderus fel llew ifanc.
2 Pan mae gwlad mewn anhrefn mae pawb eisiau arwain,ond mae'n cymryd arweinydd doeth a deallus i'w gwneud hi'n sefydlog.
3 Mae person tlawd sy'n gormesu pobl eraill sydd mewn angenfel storm o law trwm sy'n dinistrio cnydau.
4 Mae'r rhai sy'n gwrthod Cyfraith Dduw yn canmol pobl ddrwg,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith yn eu gwrthwynebu nhw.