12 Pan mae pobl dda yn ennill, mae dathlu mawr,ond pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio.
13 Fydd y sawl sy'n cuddio'i feiau ddim yn llwyddo;yr un sy'n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy'n cael trugaredd.
14 Mae'r un sy'n dangos gofal wedi ei fendithio'n fawr,ond mae person penstiff yn syrthio i bob math o drafferthion.
15 Mae llywodraethwr drwg dros bobl dlawdfel llew yn rhuo neu arth yn prowla.
16 Arweinydd heb sens sy'n gormesu o hyd;yr un sy'n gwrthod elwa ar draul eraill sy'n cael byw'n hir.
17 Bydd yr un sy'n euog o lofruddioyn ffoi hyd ei fedd – ddylai neb ei helpu.
18 Bydd yr un sy'n byw'n onest yn saff,ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio.