15 Mae llywodraethwr drwg dros bobl dlawdfel llew yn rhuo neu arth yn prowla.
16 Arweinydd heb sens sy'n gormesu o hyd;yr un sy'n gwrthod elwa ar draul eraill sy'n cael byw'n hir.
17 Bydd yr un sy'n euog o lofruddioyn ffoi hyd ei fedd – ddylai neb ei helpu.
18 Bydd yr un sy'n byw'n onest yn saff,ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio.
19 Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond yr un sy'n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi.
20 Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio'n fawr,ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi.
21 Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da;ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara!