2 Pan mae gwlad mewn anhrefn mae pawb eisiau arwain,ond mae'n cymryd arweinydd doeth a deallus i'w gwneud hi'n sefydlog.
3 Mae person tlawd sy'n gormesu pobl eraill sydd mewn angenfel storm o law trwm sy'n dinistrio cnydau.
4 Mae'r rhai sy'n gwrthod Cyfraith Dduw yn canmol pobl ddrwg,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith yn eu gwrthwynebu nhw.
5 Dydy pobl ddrwg ddim yn gwybod beth ydy cyfiawnder,ond mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei ddeall i'r dim.
6 Mae'n well bod yn dlawd ac yn onestnac yn gyfoethog ac yn ddauwynebog.
7 Mae plentyn doeth yn gwrando ar beth sy'n cael ei ddysgu iddoond mae'r un sy'n cymysgu gyda criw da i ddim yn codi cywilydd ar ei dad.
8 Mae yna un sy'n gwneud arian drwy godi llogau uchel,ond bydd ei gyfoeth yn mynd i rywun sy'n garedig at y tlawd.