1 Pan mae rhywun yn troi'n ystyfnig ar ôl cael ei geryddu dro ar ôl tro,yn sydyn bydd e'n torri, a fydd dim gwella arno.
2 Pan mae pobl dda yn llwyddo, mae dathlu mawr,ond pan mae'r rhai drwg yn rheoli, mae pobl yn griddfan.
3 Mae'r un sy'n caru doethineb yn gwneud ei dad yn hapus,ond bydd y dyn sy'n cadw cwmni puteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
4 Mae brenin yn gwneud gwlad yn sefydlog drwy weithredu'n gyfiawn,ond mae'r un sy'n trethu'r bobl yn drwm yn ei rhwygo i lawr.