14 Os ydy brenin yn trin pobl dlawd yn degbydd ei orsedd yn ddiogel bob amser.
15 Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth,ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam.
16 Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu,ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp.
17 Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl;a bydd bywyd yn bleserus i ti.
18 Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr.
19 Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.
20 Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n rhy barod ei dafod.