17 Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl;a bydd bywyd yn bleserus i ti.
18 Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl,ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr.
19 Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.
20 Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n rhy barod ei dafod.
21 Pan mae caethwas wedi ei sbwylio ers yn blentyn,fydd dim ond trafferthion yn y diwedd.
22 Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn creu helynt,a'r un sy'n gwylltio'n hawdd yn troseddu'n aml.
23 Mae balchder yn arwain i gywilydd,ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu.