19 Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas;falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando.
20 Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n rhy barod ei dafod.
21 Pan mae caethwas wedi ei sbwylio ers yn blentyn,fydd dim ond trafferthion yn y diwedd.
22 Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn creu helynt,a'r un sy'n gwylltio'n hawdd yn troseddu'n aml.
23 Mae balchder yn arwain i gywilydd,ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu.
24 Mae rhywun sy'n helpu lleidr yn elyn iddo'i hun;mae'n cael ei alw i dystio, ond yn dweud dim.
25 Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus,ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn saff.