2 Pan mae pobl dda yn llwyddo, mae dathlu mawr,ond pan mae'r rhai drwg yn rheoli, mae pobl yn griddfan.
3 Mae'r un sy'n caru doethineb yn gwneud ei dad yn hapus,ond bydd y dyn sy'n cadw cwmni puteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
4 Mae brenin yn gwneud gwlad yn sefydlog drwy weithredu'n gyfiawn,ond mae'r un sy'n trethu'r bobl yn drwm yn ei rhwygo i lawr.
5 Mae'r un sy'n seboni ei gyfaillyn taenu rhwyd i'w ddal ynddi.
6 Mae pobl ddrwg yn cael eu trapio gan eu drygioni,ond mae'r cyfiawn yn hapus ac yn canu'n braf.
7 Mae gan y cyfiawn gonsýrn am hawliau pobl dlawd;ond dydy pobl ddrwg ddim yn gweld pam y dylid poeni.
8 Mae'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill yn creu helynt,ond mae'r doeth yn tawelu dig.