23 Mae balchder yn arwain i gywilydd,ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu.
24 Mae rhywun sy'n helpu lleidr yn elyn iddo'i hun;mae'n cael ei alw i dystio, ond yn dweud dim.
25 Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus,ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn saff.
26 Mae llawer yn ceisio ennill ffafr llywodraethwr,ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i bobl.
27 Mae pobl dda yn casáu'r rhai sy'n gwneud drwg,ac mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn casáu'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.