4 Mae brenin yn gwneud gwlad yn sefydlog drwy weithredu'n gyfiawn,ond mae'r un sy'n trethu'r bobl yn drwm yn ei rhwygo i lawr.
5 Mae'r un sy'n seboni ei gyfaillyn taenu rhwyd i'w ddal ynddi.
6 Mae pobl ddrwg yn cael eu trapio gan eu drygioni,ond mae'r cyfiawn yn hapus ac yn canu'n braf.
7 Mae gan y cyfiawn gonsýrn am hawliau pobl dlawd;ond dydy pobl ddrwg ddim yn gweld pam y dylid poeni.
8 Mae'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill yn creu helynt,ond mae'r doeth yn tawelu dig.
9 Pan mae person doeth yn mynd â ffŵl i gyfraith,bydd digon o arthio a gwawdio, ond dim heddwch!
10 Mae llofruddion yn casáu pobl onest,ond mae'r rhai cyfiawn yn eu hamddiffyn nhw.