1 Fy mab, paid anghofio beth dw i'n ei ddysgu i ti;cadw'r pethau dw i'n eu gorchymyn yn dy galon.
2 Byddi'n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da;bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti.
3 Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser;clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf,ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon.
4 Yna byddi'n cael dy dderbyn, ac yn cael enw dagan Dduw a chan bobl eraill.
5 Trystia'r ARGLWYDD yn llwyr;paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.
6 Gwrando arno fe bob amser,a bydd e'n dangos y ffordd iawn i ti.