13 Y fath fendith sydd i'r sawl sy'n darganfod doethineb,ac yn llwyddo i ddeall.
14 Mae'n gwneud mwy o elw nag arian,ac yn talu'n ôl lawer mwy nag aur.
15 Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau;does dim trysor tebyg iddi.
16 Mae bywyd llawn yn ei llaw dde,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17 Mae ei ffyrdd yn llawn haelioni,a'i llwybrau yn arwain i heddwch a diogelwch.
18 Mae hi fel coeden sy'n rhoi bywyd i'r rhai sy'n gafael ynddi,ac mae'r rhai sy'n dal gafael ynddi mor hapus!
19 Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini'r ddaear;a'i ddeall e wnaeth drefnu'r bydysawd.