26 Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi hyder i ti;bydd e'n dy gadw di rhag syrthio i drap.
27 Pan mae gen ti'r cyfle i helpu rhywun,paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw.
28 Paid dweud wrth rywun, “Tyrd yn ôl rywbryd eto;bydda i'n dy helpu di yfory,” a tithau'n gallu gwneud hynny'n syth.
29 Paid meddwl gwneud drwg i rywunpan mae'r person yna'n dy drystio di.
30 Paid codi ffrae gyda rhywun am ddim rheswm,ac yntau heb wneud dim drwg i ti.
31 Paid bod yn genfigennus o rywun sy'n cam-drin pobl eraill,na dilyn ei esiampl.
32 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo,ond mae ganddo berthynas glos gyda'r rhai sy'n onest.