4 Yna byddi'n cael dy dderbyn, ac yn cael enw dagan Dduw a chan bobl eraill.
5 Trystia'r ARGLWYDD yn llwyr;paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.
6 Gwrando arno fe bob amser,a bydd e'n dangos y ffordd iawn i ti.
7 Paid meddwl dy fod ti'n glyfar;Dangos barch at yr ARGLWYDDa throi dy gefn ar ddrygioni.
8 Bydd byw felly yn cadw dy gorff yn iach,ac yn gwneud byd o les i ti.
9 Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu'r ARGLWYDD;rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe.
10 Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn,a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin.