19 Ffordd yr eryr drwy'r awyr;ffordd y neidr dros graig;llwybr llong yn hwylio'r moroedd;a llwybr cariad dyn a merch.
20 Ond ffordd gwraig anffyddlon i'w gŵr ydy:Bwyta, sychu ei cheg,a dweud, “Wnes i ddim byd o'i le.”
21 Mae tri peth yn gwneud i'r ddaear grynu,pedwar peth all hi mo'i ddiodde:
22 Caethwas yn cael ei wneud yn frenin;ffŵl yn cael gormod i'w fwyta;
23 gwraig heb ei charu yn priodi;a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres.
24 Mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond sy'n ddoeth dros ben:
25 Morgrug, sy'n greaduriaid bach gwan,ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf.