2 Dw i'n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol!Does gen i ddim sens.
3 Dw i heb ddysgu i fod yn ddoeth,a dw i'n gwybod dim am yr Un Sanctaidd.
4 Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto?Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt?Pwy sydd wedi gallu lapio'r moroedd mewn mantell?Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall?Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? – dywed os wyt ti'n gwybod.
5 Mae pob un o eiriau Duw wedi eu profi.Mae e'n darian i amddiffyn y rhai sy'n ei drystio.
6 Paid ychwanegu dim at ei eiriau,rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti'n dweud celwydd.
7 Dw i'n gofyn am ddau beth gen ti –rho nhw i mi cyn i mi farw:
8 Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo;ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi,ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd.