21 Mae tri peth yn gwneud i'r ddaear grynu,pedwar peth all hi mo'i ddiodde:
22 Caethwas yn cael ei wneud yn frenin;ffŵl yn cael gormod i'w fwyta;
23 gwraig heb ei charu yn priodi;a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres.
24 Mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond sy'n ddoeth dros ben:
25 Morgrug, sy'n greaduriaid bach gwan,ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf.
26 Brochod, sydd ddim yn gryf chwaith,ond sy'n gwneud eu cartrefi yn y creigiau.
27 Locustiaid, sydd heb frenin i'w rheoli,ond sy'n mynd allan mewn rhengoedd trefnus.