1 Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa, gan ei fam:
2 O fy mab!O blentyn annwyl fy nghroth!Y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw!
3 Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched,a rhoi dy holl egni i'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
4 O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin,ac arweinwyr ddim ysu am gwrw,
5 rhag iddyn nhw yfed ag anghofio'r deddfau,a sathru ar hawliau'r tlodion.
6 Rhowch ddiod feddwol i'r rhai sy'n marwa gwin i'r un sy'n diodde'n chwerw.
7 Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio'u tlodi,a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio'u trafferthion.