12 Mae hi'n dda iddo bob amser,a byth yn gwneud drwg.
13 Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arallac yn mwynhau gweu a gwnïo.
14 Mae hi fel fflyd o longau masnachyn cario bwyd o wledydd pell.
15 Mae hi'n codi yn yr oriau mân,i baratoi bwyd i'w theulu,a rhoi gwaith i'w morynion.
16 Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae,a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo.
17 Mae hi'n bwrw iddi'n frwd,ac yn gweithio'n galed.
18 Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo;dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos.