18 Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo;dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos.
19 Mae hi'n brysur yn nyddu â'i dwylo,a'i bysedd yn trin y gwlân.
20 Mae hi'n rhoi yn hael i'r tlodion;ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen.
21 Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira,am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.
22 Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely,a dillad o liain main drud.
23 Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas,ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.
24 Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,a dillad i'r masnachwyr eu prynu.