21 Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira,am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.
22 Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely,a dillad o liain main drud.
23 Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas,ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.
24 Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,a dillad i'r masnachwyr eu prynu.
25 Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.
26 Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser,ac yn garedig wrth ddysgu eraill.
27 Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd,a dydy hi byth yn segur.