24 Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,a dillad i'r masnachwyr eu prynu.
25 Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.
26 Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser,ac yn garedig wrth ddysgu eraill.
27 Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd,a dydy hi byth yn segur.
28 Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni;ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau,
29 “Mae yna lawer o ferched da i'w cael,ond rwyt ti'n well na nhw i gyd.”
30 Mae prydferthwch yn gallu twyllo,a harddwch yn arwynebol.Gwraig sy'n parchu'r ARGLWYDDsydd yn haeddu cael ei chanmol.