8 Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais,ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.
9 Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn,a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd.
10 Pwy sy'n gallu dod o hyd i wraig dda?Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11 Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr,ac ar ei ennill bob amser.
12 Mae hi'n dda iddo bob amser,a byth yn gwneud drwg.
13 Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arallac yn mwynhau gweu a gwnïo.
14 Mae hi fel fflyd o longau masnachyn cario bwyd o wledydd pell.