1 Blant, clywch beth mae'ch tad yn ei ddysgu i chi.Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth.
2 Dw i'n dysgu beth sy'n dda,felly peidiwch troi cefn ar beth dw i'n ddweud.
3 Roeddwn i'n blentyn ar un adeg,yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam.
4 Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i,“Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud;Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da.
5 Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn;paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud.