20 Fy mab, gwrando ar beth dw i'n ddweud;gwrando'n astud ar fy ngeiriau.
21 Paid colli golwg arnyn nhw;cadw nhw'n agos at dy galon.
22 Maen nhw'n rhoi bywyd i'r un sy'n eu cael,a iechyd i'r corff cyfan.
23 Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall,achos dyna ffynhonnell dy fywyd.
24 Paid dweud celwydd;paid dweud pethau i dwyllo pobl.
25 Edrych yn syth o dy flaen,cadw dy olwg ar ble wyt ti'n mynd.
26 Gwylia'r ffordd rwyt ti'n mynd,a byddi'n gwneud y peth iawn.