4 Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i,“Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud;Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da.
5 Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn;paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud.
6 Paid troi cefn ar ddoethineb – bydd hi'n dy warchod di;os gwnei di ei charu, bydd hi'n dy amddiffyn di.
7 Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall!Petai'n costio popeth sydd gen ti – mynna ddeall.
8 Os byddi'n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi'n dy helpu di;cofleidia hi, a bydd hi'n dod ag anrhydedd i ti.
9 Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben;coron fydd yn dy anrhydeddu di.”
10 Fy mab, gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud,a byddi di'n cael byw yn hir.