1 Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti;gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud.
2 Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn,ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth.
3 Mae gwefusau'r wraig anfoesol yn diferu fel mêl,a'i geiriau hudol yn llyfn fel olew;
4 Ond mae hi'n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod,ac yn finiog fel cleddyf.
5 Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth;mae ei chamau yn arwain i'r bedd.