15 Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun!Ei dŵr ffres hi a neb arall.
16 Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon dilifo allan i'r strydoedd?
17 Na, cadw hi i ti dy hun,paid gadael i neb arall ei chael.
18 Gad i dy ffynnon gael ei bendithio!Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan yn ifanc
19 – dy ewig hyfryd, dy afr dlos.Gad i'w bronnau roi boddhad i ti,i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.
20 Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol?Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?
21 Cofia fod Duw yn gweld popeth ti'n wneud.Mae'n gweld y cwbl, o'r dechrau i'r diwedd.