8 Cadw draw oddi wrthi hi!Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi,
9 rhag i ti golli pob hunan-barch,ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.
10 Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di,ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano.
11 Wedyn byddi'n griddfan yn y diwedd,pan fydd dy gorff wedi ei ddifetha.
12 Byddi'n dweud,“Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint?Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd?
13 Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon,a chymryd sylw o'r rhai oedd yn fy nysgu i?
14 Bu bron i bopeth chwalu'n llwyr i mi,a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.”