14 Ei unig fwriad ydy creu helynt!Mae o hyd eisiau dechrau ffrae.
15 Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro!Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno!
16 Dyma chwe peth mae'r ARGLWYDD yn eu casáu;ac un arall sy'n ffiaidd ganddo:
17 llygaid balch, tafod celwyddog,dwylo sy'n tywallt gwaed pobl ddiniwed,
18 calon sy'n cynllwynio drwg,traed sy'n brysio i wneud drwg,
19 tyst sy'n dweud celwydd,a rhywun sy'n dechrau ffrae mewn teulu.
20 Fy mab, gwna beth orchmynodd dy dad i ti;paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti.