23 Mae gorchymyn fel lamp,a dysgeidiaeth fel golau,ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd.
24 Bydd yn dy gadw rhag y ferch ddrwg,a rhag y wraig anfoesol.
25 Paid gadael i'r awydd i'w chael hi afael ynot ti,na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â'i llygaid.
26 Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara;ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth – gall gostio dy fywyd!
27 Ydy dyn yn gallu cario marwor poeth yn ei bocedheb losgi ei ddillad?
28 Ydy dyn yn gallu cerdded ar farworheb losgi ei draed?
29 Mae cysgu gyda gwraig dyn arall yr un fath;does neb sy'n gwneud hynny yn osgoi cael ei gosbi.