8 ac eto mae'n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf,a storio'r hyn sydd arno'i angen adeg y cynhaeaf.
9 Am faint wyt ti'n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn?Pryd wyt ti'n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth?
10 “Ychydig bach mwy o gwsg,pum munud arall!Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”
11 Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!
12 Dydy'r un sy'n mynd o gwmpas yn twyllo,yn ddim byd ond cnaf drwg!
13 Mae'n wincio ar bobl drwy'r adeg,mae ei draed yn aflonydd,ac mae'n pwyntio bys at bawb.
14 Ei unig fwriad ydy creu helynt!Mae o hyd eisiau dechrau ffrae.