13 Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn;mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.
14 Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.
15 Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibioac yn meindio eu busnes eu hunain.
16 Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,“Dewch yma, chi bobl wirion!
17 Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys;a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”