2 Mae hi wedi paratoi gwledd,cymysgu'r gwin,a gosod y bwrdd.
3 Mae hi wedi anfon ei morynion allani alw ar bobl drwy'r dre.
4 Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,“Dewch yma, chi bobl wirion!
5 Dewch i fwyta gyda mi,ac yfed y gwin dw i wedi ei gymysgu.
6 Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw;dechreuwch gerdded ffordd gall.”
7 Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a cei lond ceg!Cerydda rhywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin.
8 Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di;ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.