8 Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di;ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.
9 Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach;dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.
10 Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth,ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.
11 Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir;byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol.
12 Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti;ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau.
13 Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn;mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.
14 Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.